Datganiad hygyrchedd

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i gynnwys a gyhoeddir ar y parth campaign.gov.uk. Nid yw’n berthnasol i gynnwys ar is-barthau service.gov.uk (er enghraifft, www.registertovote.service.gov.uk) nac ar GOV.UK

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth. Fe’i cynlluniwyd i’w ddefnyddio gan gymaint o bobl â phosibl. Dylai’r testun fod yn glir ac yn syml i’w ddeall. Dylech allu:

  • chwyddo hyd at 300% heb broblemau
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • defnyddio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Nid yw rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch. Er enghraifft:

  • nid yw eitemau’r prif ddewislen yn defnyddio cyferbyniad lliw clir pan fyddant mewn cyflwr ffocws

Gwasanaethau GOV.UK

Mae gan bob gwasanaeth ei dudalen hygyrchedd ei hun, gyda manylion o ba mor hygyrch yw’r gwasanaeth, sut i roi gwybod am broblemau a sut i ofyn am wybodaeth mewn ffurf arall. Gallwch gael mynediad i’r tudalennau hyn o’r troedyn y tu mewn i’r gwasanaeth.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Dywedwch wrthym os ydych angen gwybodaeth mewn ffurf gwahanol.

Yn eich neges, dylech gynnwys:

  • cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
  • eich cyfeiriad e-bost a’ch enw
  • y ffurf rydych ei angen – er enghraifft, testun plaen, braille, BSL, print bras neu CD sain

Gallwch ofyn am PDF mewn ffurf hygyrch o’i dudalen. Cliciwch ‘Gofyn am ffurf hygyrch’ i gysylltu â’r sefydliad a gyhoeddodd y ddogfen.

Gallwch hefyd weld polisi dogfennau hygyrch y sefydliad  i roi gwybod am unrhyw broblemau neu ofyn am ddogfennau mewn ffurf arall.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.

Os byddwch yn cysylltu â ni gyda chwyn ac nad ydych yn hapus gyda’n hymateb cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth wedi ymrwymo i wneud ei wefannau yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â  safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Nid yw’r lliwiau a ddefnyddir yn y brif ddewislen, pan fyddant yn y cyflwr ffocws, yn cwrdd â’r cyferbyniad lliw lleiaf.

Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.4.3 (Cyferbyniad (Isafswm)) WCAG 2.1.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn gweithio gyda chontractwyr i sicrhau bod detholiad o gyfuniadau lliw hygyrch yn y brif ddewislen ar gael yn y cyflawniad nesaf o’r platfform hwn. Mae disgwyl i ddatrysiad fod ar waith erbyn haf 2023.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 25 Mai 2022. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 7 Mawrth 2024.