Byddwch yn derbyn llythyr drwy’r post gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
Mae’n bwysig nad ydych yn gwneud unrhyw beth nes i chi dderbyn eich llythyr. Gelwir hyn yn ‘Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol’ ac mae’n dweud wrthych pryd mae angen i chi symud i Gredyd Cynhwysol.
Ni chewch eich symud yn awtomatig a rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn y dyddiad cau a roddir yn eich llythyr. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 3 mis o’r dyddiad y caiff y llythyr ei anfon allan. Cadwch lygad am eich llythyr gan y gallai ei anwybyddu hyd yn oed stopio eich taliadau. Os oes gennych gwestiwn am wneud cais am Gredyd Cynhwysol neu os oes gennych broblem mynd ar-lein, ffoniwch y rhif yn eich llythyr Hysbysiad Trosglwyddo.
Os ydych yn derbyn credydau treth ar hyn o bryd, bydd angen i chi wneud cais erbyn y dyddiad yn eich llythyr hyd yn oed os ydych newydd adnewyddu eich credydau treth.
Bydd llawer o bobl yn gymwys am o leiaf yr un swm ar Gredyd Cynhwysol â’u budd-dal blaenorol.
Os yw eich hawl i Gredyd Cynhwysol yn llai na’ch credydau treth neu fudd-daliadau blaenorol, yna efallai y byddwch yn gymwys i gael amddiffyniad ariannol pan fyddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol. Gelwir y swm ychwanegol hwn yn ‘ddiogelwch trosiannol’. Er mwyn helpu i ddangos sut mae diogelwch trosiannol yn gweithio, dyma enghraifft.
Enghraifft
Mae gan Sarah hawl i £700 ar ei budd-daliadau neu gredydau treth presennol.
Ei hawl i Gredyd Cynhwysol yw £600.
Mae hyn yn golygu y bydd diogelwch trosiannol Sarah yn £100.
Mae cyfanswm ei hawl i Gredyd Cynhwysol nawr yn £700.
I fod yn gymwys i gael ‘ddiogelwch trosiannol’:
- dylech ond gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar ôl i chi dderbyn eich llythyr Hysbysiad Trosglwyddo
- mae’n rhaid i chi wneud cais cyn y dyddiad cau yn eich llythyr Hysbysiad Trosglwyddo
- ni ddylai fod unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau
Darganfyddwch fwy am sut mae eich taliadau yn cael eu diogelu.
Pryd fyddwch yn debygol o gael eich llythyr
Cadwch lygad am lythyr yn y post ar ryw adeg eleni. Bydd y tabl isod yn rhoi syniad bras i chi o bryd rydych yn debygol o dderbyn eich llythyr. Canllaw yn unig yw hwn, felly peidiwch â phoeni os nad ydych yn derbyn llythyr erbyn y dyddiad isod.
Os nad ydych yn siwr os oes angen i chi symud, dylech ofyn am gyngor annibynnol.
Eich budd-dal presennol | Pryd y gallwch gael eich llythyr |
Credydau treth yn unig | Rhwng nawr a diwedd mis Mawrth 2024 |
Credydau Treth (oedran pensiwn) | O fis Awst 2024 |
Credydau treth gyda Budd-dal Tai | O fis Ebrill 2024 |
Cymhorthdal Incwm: – Cymhorthdal Incwm yn unig – Cymhorthdal Incwm gyda Budd-dal Tai – Cymhorthdal Incwm gyda Chredydau Treth – Cymhorthdal Incwm gyda Budd-dal Tai a Chredydau Treth | O fis Ebrill 2024 |
Budd-daliadau Tai yn unig | O fis Mehefin 2024 |
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm gyda Chredydau Treth Plant | O fis Gorffennaf 2024 |
Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm | O fis Medi 2024 |
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn unig | Ni ofynnir i chi symud i Gredyd Cynhwysol tan ddyddiad yn ddiweddarach |
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gyda Budd-dal Tai | Ni ofynnir i chi symud i Gredyd Cynhwysol tan ddyddiad yn ddiweddarach |
Cymhwysedd
Os ydych yn gwneud cais o fewn y dyddiad cau ar eich llythyr, yna nid yw rhai rheolau cymhwysedd Credyd Cynhwysol arferol yn berthnasol i chi.
Os ydych yn derbyn credydau treth, gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol hyd yn oed os oes gennych arian, cynilion a buddsoddiadau o fwy na £16,000. Ar ôl 12 cyfnod asesu misol, bydd rheolau cymhwysedd arferol yn berthnasol ac ni fyddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol os oes gennych dal fwy na £16,000 mewn arian, cynilion a buddsoddiadau.
Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych chi neu’ch partner mewn addysg uwch llawn amser (fel prifysgol) drwy gydol eich cwrs. Darganfyddwch fwy am Gredyd Cynhwysol a myfyrwyr.
Darganfyddwch fwy am gymhwysedd ar gyfer Credyd Cynhwysol.
Ni fydd rhai pobl yn symud i Gredyd Cynhwysol
Ni fyddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol os ydych ond yn derbyn Budd-dal Tai ac rydych yn:
- bensiynwr (rydych yn 66 oed neu drosodd)
- byw mewn llety dros dro a ddarperir gan gyngor oherwydd eich bod yn ddigartref
- byw mewn llety â chymorth gan gynnwys llochesi, hosteli, tai gofal ychwanegol a rhai tai cysgodol
Yn hytrach, byddwch yn parhau i dderbyn cymorth gyda chostau tai drwy eich Budd-dal Tai presennol.
Os ydych yn hawlio credydau treth ac o Oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd DWP yn ysgrifennu atoch i ofyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol neu Gredyd Pensiwn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Os ydych ond cael budd-daliadau dull newydd, naill ai Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd (ESAc) neu Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd (JSAc), yna ni ofynnir i chi symud i Gredyd Cynhwysol. Os nad ydych chi’n siwr pa fudd-daliadau rydych chi’n eu cael, gallwch siarad ag ymgynghorydd annibynnol.