Os ydych eisiau rhywfaint o help gyda’ch cais Credyd Cynhwysol neu os ydych yn poeni am reoli’ch incwm nes i chi dderbyn eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, mae gwahanol fathau o gymorth ar gael.
- Help gyda gwneud eich cais
- Cymorth cyn eich taliad cyntaf
- Newid sut rydych yn cael eich taliad Credyd Cynhwysol
- Cael help a chyngor gydag HelpwrArian
- Mwy o help gan y llywodraeth
- Help os ydych yn yr Alban
- Llinell gymorth Symud i Gredyd Cynhwysol
Help gyda gwneud eich cais
Mae Help i Hawlio yn cynnig cefnogaeth annibynnol, gyfrinachol a diduedd am ddim dros y ffôn i helpu pobl i wneud cais am Gredyd Cynhwysol, wedi ei ddarparu gan ymgynghorwyr hyfforddedig o Gyngor ar Bopeth. Gweler y wybodaeth gyswllt ganlynol yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw:
- Cymru a Lloegr (Cyngor ar Bopeth) – 0800 144 8444
- Yr Alban (Cyngor ar Bopeth yr Alban) – 0800 023 2581
- Llinell Gymraeg – 0800 024 1220
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, ewch i NI Direct.
Gallwch hefyd gael gwybodaeth am gyngor budd-daliadau am ddim a diduedd yn eich ardal leol gydag Advice Local.
Cymorth cyn eich taliad cyntaf
Os byddwch yn ei chael hi’n anodd ymdopi’n ariannol cyn i chi gael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, gallwch ofyn am rywfaint o’ch taliad Credyd Cynhwysol ymlaen llaw.
Bydd uchafswm y swm o daliad ymlaen llaw y gallwch ofyn amdano yn dibynnu ar faint yr amcangyfrifir y byddwch yn ei gael yn eich taliad misol cyntaf.
Peidiwch ag anghofio, mae eich taliad ymlaen llaw yn ad-daladwy, sy’n golygu y bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol yn cael eu haddasu nes bod y taliad ymlaen llaw yn cael ei dalu’n llawn. Gallwch wirio eich dyddlyfr Credyd Cynhwysol ar-lein i ddarganfod mwy am sut mae hyn yn gweithio ac o faint y bydd eich taliadau’n cael eu haddasu.
Darganfyddwch fwy am sut y gallwch ofyn am daliad Credyd Cynhwysol ymlaen llaw.
Newid sut rydych yn cael eich taliad Credyd Cynhwysol
Os ydych yn ei chael hi’n anodd ymdopi’n ariannol neu os ydych yn cael eich hun ar ei hôl hi gyda’ch rhent, gallwch chi neu’ch landlord ystyried gwneud cais am Drefniant Talu Amgen (APA).
Mae hyn yn newid sut rydych yn derbyn eich taliad a gallai fod yn ddefnyddiol yn dibynnu ar eich sefyllfa. Er enghraifft, gallwch:
- gael eich rhent wedi’i dalu’n uniongyrchol i’ch landlord
- cael eich talu’n amlach nag unwaith y mis
- derbyn taliadau wedi’u rhannu, os ydych yn rhan o gwpl
Edrychwch ar eich dyddlyfr Credyd Cynhwysol ar-lein i weld a allai’r dewisiadau amgen hyn weithio i chi.
Cael help a chyngor gyda HelpwrArian
Os ydych yn poeni am sut i ymdopi gyda’ch biliau yn ystod y newid hwn, yna gallai Blaenoriaethwr Biliau a theclynnau eraill HelpwrArian eich helpu. Os ydych eisoes yn methu gwneud taliadau i bobl mae arnoch arian iddynt, yna gallwch gael mynediad i help cyfrinachol ac am ddim ble rydych yn byw gan ein cyfeirlyfr cyngor ar ddyledion.
Cefnogaeth os yw salwch terfynol yn effeithio arnoch chi
Os ydych chi’n byw, neu’n gofalu am rywun gyda, salwch terfynol, gall meddwl am fudd-daliadau deimlo’n bryderus neu’n llethol. Mae llawer o sefydliadau a all helpu:
- Mae Sue Ryder yn darparu gofal tosturiol am ddim i’r rhai y mae salwch sy’n cyfyngu ar fywyd a phrofedigaeth yn effeithio arnynt, yn ogystal â gwybodaeth am gymorth ariannol a allai fod ar gael.
- I gael cymorth emosiynol, neu yn syml rhywun i wrando, ffoniwch Linell Gymorth Marie Curie am ddim ar 0800 090 2309 neu dewch o hyd i gymorth arall sy’n addas ar eich cyfer. Mae gan Marie Curie hefyd wybodaeth am fudd-daliadau a chymorth ariannol a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
- Mae Llinell Gymorth Macmillan yn cynnig cymorth cyfrinachol am ddim i bobl sy’n byw gyda chanser a’u hanwyliaid. Os oes angen i chi siarad, ffoniwch 0808 808 0000. Mae gwybodaeth hefyd am fudd-daliadau a chymorth ariannol y gallech fod yn gymwys i’w cael os oes gennych ganser.
Nid yw DWP yn gyfrifol am wybodaeth a roddir gan gyfrifianellau budd-daliadau. Amcangyfrifon yn unig yw’r rhain ac efallai nad ydynt yn cynnwys y diogelwch ariannol y gallech fod yn gymwys i’w gael.
Help i Aelwydydd
Darganfyddwch pa gymorth arall gan y llywodraeth sydd ar gael.
Help os ydych yn yr Alban
Os ydych yn yr Alban mae rhai dewisiadau ychwanegol ar gael i chi.
Cysylltwch â’r llinell gymorth Symud i Gredyd Cynhwysol
Ffoniwch y rhif ffôn yn eich llythyr Hysbysiad Trosglwyddo os oes gennych gwestiwn am wneud cais am Gredyd Cynhwysol neu os nad ydych yn gallu mynd ar-lein.