Beth fyddwch chi’n ei gael ar Gredyd Cynhwysol

Bydd faint o Gredyd Cynhwysol a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.


Cyfrifianellau budd-daliadau

Gallwch gael amcangyfrif o faint fydd eich taliad Credyd Cynhwysol gyda chyfrifiannell budd-dal ar-lein.Dylech fod yn ymwybodol, amcangyfrifon yn unig yw’r rhain ac efallai na fyddant yn cynnwys y diogelwch ariannol y gallech fod yn gymwys i’w gael.


Diogelwch ariannol

Os yw’r swm y mae gennych hawl iddo ar Gredyd Cynhwysol yn llai na’ch budd-daliadau neu gredydau treth blaenorol, yna efallai y bydd diogelwch ariannol ar gael i chi pan fyddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol.

Gelwir y swm ychwanegol hwn yn ‘ddiogelwch trosiannol’. I fod yn gymwys i gael ‘diogelwch trosiannol’:

  • rhaid i chi ond gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar ôl i chi dderbyn eich llythyr
  • rhaid i chi wneud cais cyn y dyddiad cau yn eich llythyr
  • ni ddylai fod unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau

Os ydych yn gymwys, bydd ddiogelwch ariannol yn cael ei ychwanegu’n awtomatig at eich taliad. Nid benthyciad neu ddyled yw diogelwch trosiannol ac ni ofynnir i chi ei ad-dalu.

Er mwyn helpu i ddangos sut mae diogelwch trosiannol yn gweithio, dyma enghraifft.

Enghraifft

Mae gan Sarah hawl i £700 ar ei budd-daliadau neu gredydau treth presennol.

Ei hawl i Gredyd Cynhwysol yw £600.

Mae hyn yn golygu y bydd diogelwch trosiannol Sarah yn £100.

Mae cyfanswm ei hawl i Gredyd Cynhwysol nawr yn £700.

Nid yw diogelwch trosiannol yn barhaol. Wrth i’ch hawl i Gredyd Cynhwysol gynyddu, bydd eich taliadau diogelwch trosiannol yn gostwng, hyd nes:

  • mae eich hawl i Gredyd Cynhwysol yr un fath neu’n fwy na’ch budd-daliadau neu gredydau treth blaenorol
  • mae gennych newidiadau penodol i’ch amgylchiadau

Darganfyddwch fwy am y newidiadau a all effeithio ar eich diogelwch trosiannol.


Gweld eich taliadau

Mae eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu dangos yn eich cyfrif ar-lein. Bydd eich dyddlyfr ar-lein yn dangos dadansoddiad manwl o’ch taliadau i chi.  Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol dros y ffôn, byddwch yn derbyn eich datganiad yn y post.


Sut mae taliadau’n cael eu gwneud

Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu’n fisol ar yr un dyddiad bob mis. Fodd bynnag, os na allwch ymdopi gallwch ofyn am daliadau’n fwy aml, fel dwywaith y mis.

Mae’r rhan fwyaf o bobl fel arfer yn derbyn eu taliad Credyd Cynhwysol cyntaf tua 5 wythnos ar ôl i’w cais gael ei brosesu.

Bydd diwrnod eich taliad yn dibynnu ar ba bryd y gwnaethoch wneud eich cais.

Byddwch yn parhau i gael eich budd-dal presennol wedi ei dalu am 2 wythnos arall os ydych yn cael:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Tai

Os ydych yn poeni am reoli eich arian, mae cymorth a chyngor annibynnol ar gael i chi.


Cwsmeriaid credyd treth sydd wedi cael eu gordalu

Os oeddech yn hawlio credydau treth cyn eich cais Credyd Cynhwysol, gallech fod wedi cael eich gordalu gan CThEF. Os bydd hyn yn effeithio arnoch chi, byddwch yn derbyn llythyr gan CThEF yn esbonio beth sy’n ddyledus gennych a sut i ad-dalu’r arian. Darganfyddwch fwy am ordaliadau credydau treth.