Camau y mae angen i chi eu cymryd i symud i Gredyd Cynhwysol

Unwaith y byddwch wedi derbyn eich llythyr ‘Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol’, bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol i barhau i gael cymorth ariannol. Bydd dyddiad cau yn eich llythyr. Mae hyn yn 3 mis o’r dyddiad y cafodd y llythyr ei anfon allan.


Paratoi ar gyfer eich cais Credyd Cynhwysol

I wneud eich cais am Gredyd Cynhwysol mor gyflym a hawdd â phosibl, mae’n ddefnyddiol cael popeth rydych ei angen cyn i chi ddechrau.

Mae rhestr o’r dogfennau y byddwch eu hangen cyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Os ydych yn dod o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), ni fyddwch angen Asesiad Gallu i Weithio (WCA) arall oni bai bod gennych newid yn eich iechyd neu gyflwr iechyd.


Pa mor hir mae’n ei gymryd i wneud cais am Gredyd Cynhwysol

Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Gall gymryd awr neu fwy i wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn ei wneud ar-lein. Bydd cael y dogfennau a’r wybodaeth gywir yn eich helpu i wneud cais yn gyflymach.


Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud eu cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein.

Os nad ydych yn gallu gwneud cais ar-lein, cysylltwch â’r gwasanaeth Help i Hawlio.

Os ydych yn byw gyda’ch partner fel cwpl, bydd angen i chi wneud cais ar y cyd. I wneud hyn, mae un ohonoch yn creu cyfrif ac yn anfon cod i’ch partner. Maent yn defnyddio’r cod hwn i greu eu cyfrif eu hunain. Darganfyddwch fwy am wneud cais am Gredyd Cynhwysol fel cwpl.

Darganfyddwch fwy am sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Bydd y fideo isod yn dangos i chi beth sydd angen i chi ei wneud i wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Ar ôl i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth fel bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwybod mai chi yw pwy ydych chi’n dweud ydych chi. Gall y rhan fwyaf o bobl gadarnhau eu hunaniaeth ar-lein ond efallai y gofynnir i chi ddod i’r ganolfan gwaith i wirio pwy ydych chi. Os na allwch wneud hynny oherwydd rhesymau iechyd neu ymrwymiadau gwaith, gallwch ofyn am apwyntiad ffôn. Gallwch ofyn am un trwy’ch dyddlyfr ar-lein.

Bydd eich cais yn cael ei brosesu dim ond ar ôl i’ch hunaniaeth gael ei gadarnhau.


Beth sy’n digwydd nesaf

Nid oes angen ffonio’r Adran Gwaith a Phensiynau tra bod eich cais yn cael ei brosesu. Os cafodd eich cais ei wneud ar-lein, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cysylltu â chi os bydd angen unrhyw wybodaeth bellach. 

Ni fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau byth yn anfon neges destun nac e-bost atoch yn gofyn am wybodaeth bersonol neu fanylion banc.

Efallai y byddwch angen apwyntiad gyda’r tîm Credyd Cynhwysol os:

  • maent angen mwy o wybodaeth
  • ni allwch ddilysu eich hunaniaeth ar-lein

Byddwch yn cael gwybod a fydd yr apwyntiad hwn mewn canolfan gwaith neu ar y ffôn.

Efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i gyfarfod i gytuno ar y gweithgareddau yn eich ymrwymiad hawlydd cyn y gallwch gael eich taliad cyntaf.

Fel arfer mae’n cymryd tua 5 wythnos i gael eich taliad cyntaf.