Hysbysiad Preifatrwydd

Darperir y safle hwn gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar y cyd â Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS), rhan o Swyddfa’r Cabinet.

Yr Adran Gwaith a Phensiynau yw’r rheolydd data ar gyfer unrhyw wybodaeth bersonol a gyhoeddir ar y wefan hon ac unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir trwy gwcis.

Swyddfa’r Cabinet yw’r rheolydd data ar gyfer gwybodaeth bersonol a brosesir fel rhan o ddarparu’r platfform sylfaenol fel cyfeiriadau IP.

Mae rheolwr data yn penderfynu sut a pham mae data personol yn cael ei brosesu. Am fwy o wybodaeth, darllenwch gofnod Swyddfa’r Cabinet yn y Gofrestr Diogelu Data.

Pa ddata rydym yn ei gasglu a pham rydym ei angen

Mae GDS yn casglu rhywfaint o ddata yn awtomatig pan fyddwch yn ymweld â’r wefan hon. Mae hyn yn cynnwys eich cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd (IP), a manylion pa fersiwn o borwr gwe rydych yn ei ddefnyddio. Mae GDS yn defnyddio’r wybodaeth hon i roi mynediad i’r wefan i chi ac i fonitro defnydd o’r safle i nodi bygythiadau diogelwch.

Pan fyddwch yn rhoi eich caniatâd, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn defnyddio Google Analytics neu Google Analytics 4 i gasglu’r wybodaeth ganlynol am sut rydych yn defnyddio’r wefan hon:

  • y tudalennau rydych yn ymweld â hwy ar GOV.UK
  • faint o amser ydych chi’n ei dreulio ar bob tudalen GOV.UK
  • sut wnaethoch chi gyrraedd y safle
  • beth rydych yn clicio arno tra rydych yn ymweld â’r wefan
  • arwydd bras o’ch lleoliad gan ddefnyddio’ch cyfeiriad IP dienw.

Ni chesglir unrhyw wybodaeth bersonol y gellir eich adnabod yn uniongyrchol trwy Google Analytics neu Google Analytics 4 (er enghraifft, eich enw neu gyfeiriad). Ni fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn eich adnabod trwy wybodaeth ddadansoddi, ac ni fydd yn cyfuno gwybodaeth ddadansoddi â setiau data eraill mewn ffordd a fyddai’n nodi pwy ydych chi.

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau bod y wefan yn diwallu anghenion ei defnyddwyr ac i wneud gwelliannau.

Gweler y dudalen Cwcis am fwy o wybodaeth am y cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon.

Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data

Sail gyfreithiol GDS ar gyfer prosesu data personol mewn perthynas â diogelwch safle yw eu buddiannau cyfreithlon wrth sicrhau diogelwch a chywirdeb y wefan.

Sail gyfreithiol GDS ar gyfer prosesu’r holl ddata personol arall yw ei bod yn angenrheidiol i gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer ein swyddogaethau fel adran o’r llywodraeth.

Sail gyfreithiol yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer casglu eich gwybodaeth gyda Google Analytics neu Google Analytics 4 yw eich caniatâd.

Beth rydym yn ei wneud gyda’ch data

Gall GDS neu’r Adran Gwaith a Phensiynau rannu data gydag adrannau, asiantaethau’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill lle mae angen busnes dilys a chyfiawnadwy. Gellir rhannu data hefyd â chyflenwyr technoleg, fel darparwyr cynnal, sy’n gweithredu fel proseswyr data.

Ni fyddwn yn:

  • werthu neu rentu eich data i drydydd partïon
  • rhannu eich data â thrydydd partïon at ddibenion marchnata
  • defnyddio’r data dadansoddi i adnabod unigolion h.y. drwy gysylltu â setiau data eraill

Byddwn yn rhannu eich data os yw’n ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith – er enghraifft, drwy orchymyn llys, neu i atal twyll neu drosedd arall.

Am faint o amser rydym yn cadw eich data

Byddwn ond yn cadw eich data personol cyhyd ag y bydd ei angen at y dibenion a nodir yn y ddogfen hon neu gyhyd ag y mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud hynny.

Bydd GDS yn dileu data log mynediad ar ôl 120 diwrnod.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dileu data Google Analytics neu Google Analytics 4 ar ôl 12 mis.

Diogelu preifatrwydd plant

Nid yw’r wefan hon wedi’i chynllunio ar gyfer, nac wedi’i dargedu’n fwriadol at blant 13 oed neu iau. Nid yw GDS na’r Adran Gwaith a Phensiynau yn casglu nac yn cadw data am unrhyw un o dan 13 oed yn fwriadol.

Lle mae eich data yn cael ei brosesu a’i storio

Mae data sy’n gysylltiedig â’r platfform sylfaenol yn cael ei brosesu a’i storio yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Gellir trosglwyddo data a gesglir gan Google Analytics neu Google Analytics 4 y tu allan i’r AEE i’w brosesu.

Sut rydym yn diogelu eich data a’i gadw’n ddiogel

Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gadw eich data yn ddiogel. Rydym wedi sefydlu systemau a phrosesau i atal mynediad heb awdurdod neu ddatgelu eich data – er enghraifft, rydym yn diogelu eich data gan ddefnyddio lefelau amrywiol o amgryptio.

Rydym hefyd yn sicrhau bod unrhyw drydydd partïon rydym yn delio â hwy yn cadw’r holl ddata personol y maent yn ei brosesu ar ein rhan yn ddiogel.

Eich hawliau

Mae gennych hawl i ofyn am:

  • wybodaeth am sut mae eich data personol yn cael ei brosesu
  • copi o’r data personol hwnnw
  • unrhyw beth anghywir yn eich data personol i gael ei gywiro ar unwaith

Gallwch hefyd:

  • codi gwrthwynebiad am sut mae eich data personol yn cael ei brosesu
  • gofyn i’ch data personol gael ei ddileu os nad oes cyfiawnhad mwyach amdano
  • gofyn bod prosesu eich data personol yn cael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau

Os oes gennych unrhyw un o’r ceisiadau hyn, cysylltwch â gds-privacy-office@digital.cabinet-office.gov.uk.

Cysylltu â ni neu wneud cwyn

Cysylltwch â Thîm Preifatrwydd GDS yn gds-privacy-office@digital.cabinet-office.gov.uk os:

  • oes gennych gwestiwn am unrhyw beth yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn
  • rydych yn meddwl bod eich data personol wedi cael ei gamddefnyddio neu ei gam-drin

Gallwch hefyd gysylltu â Swyddfa’r Cabinet a Swyddogion Diogelu Data’r Adran Gwaith a Phensiynau (DPO):

Data Protection Officer
DPO@cabinetoffice.gov.uk
Cabinet Office
70 Whitehall
London
SW1A 2AS

DWP Data Protection Team
Benton Park View 6
Room BP6001
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1ZX

Neu drwy e-bost: data.protectionofficer@dwp.gov.uk.

Mae’r DPOs yn darparu cyngor a monitro annibynnol o’n defnydd o wybodaeth bersonol.

Gallwch hefyd wneud cwyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n rheoleiddiwr annibynnol.

Comisiynydd Gwybodaeth
casework@ico.org.uk

Ffôn: 0303 123 1113
Ffôn testun: 01625 545860
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 4:30pm
Darganfyddwch fwy am gostau galwadau

Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF

Newidiadau i’r hysbysiad hwn

Gellir newid yr hysbysiad hwn o bryd i’w gilydd. Yn yr achos hynny, bydd y dyddiad ‘diweddarwyd ddiwethaf’ ar waelod y dudalen hon hefyd yn newid. Bydd unrhyw newidiadau i’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i chi a’ch data ar unwaith.

Os bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar sut mae eich data personol yn cael ei brosesu, bydd GDS a’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cymryd camau rhesymol i roi gwybod i chi.

Diweddarwyd 7 Mawrth 2024