Astudiaeth Achos

Pan glywodd Paul, 56 oed o Ashington, y byddai angen iddo symud o Lwfans Ceisio Gwaith i Gredyd Cynhwysol, roedd yn teimlo’n bryderus iawn. Roedd yn arbennig o nerfus y byddai’r newid yn golygu y byddai dan bwysau i ddod o hyd i waith nad oedd yn addas iddo, ar ôl bod allan o waith am 18 mlynedd. Roedd hefyd yn bryderus am ei daliadau, yn meddwl tybed a allai’r symud i Gredyd Cynhwysol beri iddo methu â thalu ei filiau.

Fodd bynnag, nid oedd angen i Paul fod wedi bod mor bryderus gan iddo ddod o hyd i gefnogaeth gyda symud i Gredyd Cynhwysol trwy ei Ganolfan Byd Gwaith leol yn Northumberland. Canfu fod ei anogwr gwaith yn gallu ei helpu mewn mwy o ffyrdd nag y sylweddolodd! Fe wnaethant gyfeirio Paul at y Learning Hive Centre, trwy’r Northern Learning Trust a’i cefnogodd i wneud ei gais am Gredyd Cynhwysol ar-lein.

Roedd Learning Hive, sy’n cynnig sgiliau, addysg a hyfforddiant i denantiaid tai cymdeithasol, yn ddarparwr roedd Paul yn hapus iawn i weithio gyda hwy. Ers 2 flynedd, mae Paul wedi bod yn mynychu eu canolfan yn Ashington, lle mae wedi bod yn datblygu ei ddarllen a’i sillafu.

Mae’r rhain wedi dod ymlaen yn hynod o dda ac mae’r gefnogaeth hon wedi rhoi hyder newydd i Paul wrth ddefnyddio ei gyfrif Indeed i chwilio am waith, gyda chefnogaeth y Tîm Learning Hive.

Wedi i’w gais Credyd Cynhwysol gael ei wneud, llwyddodd Paul i weithio’n uniongyrchol gyda’i Anogwr Gwaith newydd, Pauline, i arwain ei gamau at waith yn y dyfodol a rheoli ei daliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol. Fe wnaeth Pauline hefyd ei helpu i reoli ei negeseuon e-bost, llythyrau a negeseuon dyddlyfr ar-lein!

Dywedodd Paul fod y broses gyfan yn teimlo’n “esmwyth iawn ac fe gafodd ei holl ofnau eu tawelu” diolch i gefnogaeth ac arweiniad ei Anogwr Gwaith ac mae’n hyderus am y dyfodol. Mae’n parhau i ddatblygu ei sgiliau llythrennedd a chyfathrebu yn y Ganolfan Learning Hive ac mae’n hapus iawn yn chwilio am waith.

Pob lwc i Paul yn ei chwiliad gwaith parhaus!