Datganiad hygyrchedd
Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i gynnwys a gyhoeddir ar y parth campaign.gov.uk. Nid yw’n berthnasol i gynnwys ar is-barthau service.gov.uk (er enghraifft, www.registertovote.service.gov.uk) nac ar GOV.UK
Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth. Fe’i cynlluniwyd i’w ddefnyddio gan gymaint o bobl â phosibl. Dylai’r testun fod yn glir ac yn syml i’w ddeall. Dylech allu:
- chwyddo hyd at 300% heb broblemau
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- defnyddio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Nid yw rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch. Er enghraifft:
- nid yw eitemau’r prif ddewislen yn defnyddio cyferbyniad lliw clir pan fyddant mewn cyflwr ffocws
Gwasanaethau GOV.UK
Mae gan bob gwasanaeth ei dudalen hygyrchedd ei hun, gyda manylion o ba mor hygyrch yw’r gwasanaeth, sut i roi gwybod am broblemau a sut i ofyn am wybodaeth mewn ffurf arall. Gallwch gael mynediad i’r tudalennau hyn o’r troedyn y tu mewn i’r gwasanaeth.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Dywedwch wrthym os ydych angen gwybodaeth mewn ffurf gwahanol.
Yn eich neges, dylech gynnwys:
- cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
- eich cyfeiriad e-bost a’ch enw
- y ffurf rydych ei angen – er enghraifft, testun plaen, braille, BSL, print bras neu CD sain
Gallwch ofyn am PDF mewn ffurf hygyrch o’i dudalen. Cliciwch ‘Gofyn am ffurf hygyrch’ i gysylltu â’r sefydliad a gyhoeddodd y ddogfen.
Gallwch hefyd weld polisi dogfennau hygyrch y sefydliad i roi gwybod am unrhyw broblemau neu ofyn am ddogfennau mewn ffurf arall.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.
Os byddwch yn cysylltu â ni gyda chwyn ac nad ydych yn hapus gyda’n hymateb cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth wedi ymrwymo i wneud ei wefannau yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Nid yw’r lliwiau a ddefnyddir yn y brif ddewislen, pan fyddant yn y cyflwr ffocws, yn cwrdd â’r cyferbyniad lliw lleiaf.
Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.4.3 (Cyferbyniad (Isafswm)) WCAG 2.1.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn gweithio gyda chontractwyr i sicrhau bod detholiad o gyfuniadau lliw hygyrch yn y brif ddewislen ar gael yn y cyflawniad nesaf o’r platfform hwn. Mae disgwyl i ddatrysiad fod ar waith erbyn haf 2023.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 25 Mai 2022. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 7 Mawrth 2024.