Unwaith y byddwch wedi derbyn eich llythyr ‘Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol’, bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol i barhau i gael cymorth ariannol. Bydd dyddiad cau yn eich llythyr. Mae hyn yn 3 mis o’r dyddiad y cafodd y llythyr ei anfon allan.
Paratoi ar gyfer eich cais Credyd Cynhwysol
I wneud eich cais am Gredyd Cynhwysol mor gyflym a hawdd â phosibl, mae’n ddefnyddiol cael popeth rydych ei angen cyn i chi ddechrau.
Mae rhestr wirio i’ch helpu i baratoi ar gyfer eich cais, sy’n amlinellu’r holl gamau fydd angen i chi eu cwblhau.
O dan ‘Beth rydych ei angen i wneud cais’ mae rhest o ddogfennau y byddwch eu hangen cyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Cyflyrau iechyd ac anableddau
Os ydych yn symud drosodd i Gredyd Cynhwysol o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA), ni fyddwch angen Asesiad Gallu i Weithio arall ar yr amod:
- rydych eisoes wedi cwblhau Asesiad Gallu i Weithio
- roeddech eisoes yn hawlio ESA yn seiliedig ar incwm y diwrnod cyn i chi wneud eich cais Credyd Cynhwysol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais erbyn y terfyn amser yn eich Hysbysiad Trosglwyddo.
Os bydd eich amgylchiadau’n newid, bydd angen i chi roi gwybod am hyn ar unwaith. Er enghraifft, os oes gennych gyflwr iechyd newydd, neu, os bydd cyflwr iechyd sy’n bodoli eisoes yn gwella neu’n mynd yn waeth. Ar y pwynt hwn, efallai y gofynnir i chi gael Asesiad Gallu i Weithio newydd.
Darganfyddwch fwy am wneud cais am Gredyd Cynhwysol os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd.
Hunangyflogedig
I wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn hunangyflogedig, bydd angen i chi ddangos mai hunangyflogaeth yw eich prif waith. Darganfyddwch fwy am yr hyn sydd angen i chi ei wneud os ydych yn hunangyflogedig ac yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Pa mor hir mae’n ei gymryd i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Gall gymryd awr neu fwy i wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn ei wneud ar-lein. Bydd cael y dogfennau a’r wybodaeth gywir yn eich helpu i wneud cais yn gyflymach.
Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud eu cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein.
Os nad ydych yn gallu gwneud cais ar-lein, cysylltwch â’r gwasanaeth Help i Hawlio.
Os ydych yn byw gyda’ch partner fel cwpl, bydd angen i chi wneud cais ar y cyd. I wneud hyn, mae un ohonoch yn creu cyfrif ac yn anfon cod i’ch partner. Maent yn defnyddio’r cod hwn i greu eu cyfrif eu hunain. Darganfyddwch fwy am wneud cais am Gredyd Cynhwysol fel cwpl.
Darganfyddwch fwy am sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Bydd y fideo isod yn dangos i chi beth sydd angen i chi ei wneud i wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Darganfyddwch fwy am sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Mae rhestr wirio i’ch helpu i baratoi ar gyfer eich cais, sy’n amlinellu’r holl gamau fydd angen i chi eu cwblhau.
Bydd y fideo isod yn dangos i chi sut i weud cais am Gredyd Cynhwysol.
Dilysu eich hunaniaeth ar-lein
Fel rhan o wneud cais, gofynnir i chi ddilysu pwy ydych ar-lein.
Mae’n bwysig eich bod yn dilysu eich hunaniaeth fel eich bod yn cadw’ch hawl i ddiogelwch trosiannol. Bydd angen i chi ddewis dwy ddogfen o’r dewis yn eich cais ar-lein. Peidiwch â phoeni os nad oes gennych ddau o’r dogfennau angenrheidiol. Gallwn ddefnyddio dulliau eraill i ddilysu eich hunaniaeth. Os nad ydych yn gallu dilysu eich hunaniaeth gan ddefnyddio’r system ar-lein, gallwch barhau i wneud cais am Gredyd Cynhwysol, fodd bynnag, bydd gofyn i chi ddilysu pwy ydych chi yn eich apwyntiad Canolfan Gwaith gyntaf.
Beth sy’n digwydd nesaf
Nid oes angen ffonio’r Adran Gwaith a Phensiynau tra bod eich cais yn cael ei brosesu. Os cafodd eich cais ei wneud ar-lein, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cysylltu â chi os bydd angen unrhyw wybodaeth bellach.
Ni fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau byth yn anfon neges destun nac e-bost atoch yn gofyn am wybodaeth bersonol neu fanylion banc.
Efallai y byddwch angen apwyntiad gyda’r tîm Credyd Cynhwysol os:
- maent angen mwy o wybodaeth
- ni allwch ddilysu eich hunaniaeth ar-lein
Byddwch yn cael gwybod a fydd yr apwyntiad hwn mewn canolfan gwaith neu ar y ffôn. Efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i gyfarfod i gytuno ar y gweithgareddau yn eich ymrwymiad hawlydd cyn y gallwch gael eich taliad cyntaf.
Bydd eich ymrwymiad hawlydd yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol, a byddwch yn cael cyfle i’w drafod cyn i chi ei dderbyn. Ar ôl cytuno, mae’n bwysig eich bod yn mewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein ac yn derbyn yr ymrwymiad hawlydd yn gyflym i sicrhau y gellir gwneud eich taliadau a hefyd eich bod yn cynnal eich hawl i ddiogelwch trosiannol.
Bydd eich ymrwymiad hawlydd yn cael ei adolygu’n rheolaidd a gellir ei ddiweddaru os bydd eich amgylchiadau’n newid. Darganfyddwch fwy am eich ymrwymiad hawlydd. Fel arfer mae’n cymryd tua 5 wythnos i gael eich taliad cyntaf.