Rhestr Wirio Credyd Cynhwysol

Unwaith y byddwch wedi derbyn eich llythyr Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol, bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol i barhau i gael cymorth ariannol. Bydd terfyn amser yn eich llythyr.

Defnyddiwch y rhestr wirio hon i’ch helpu i baratoi ar gyfer eich cais Credyd Cynhwysol. Mae’r wybodaeth hon hefyd ar gael i’w gwylio fel fideo neu restr wirio y gallwch ei lawrlwytho.

Gallwch arbed eich cais ar unrhyw adeg a bydd gennych 28 diwrnod i’w gwblhau, unwaith y byddwch wedi creu eich cyfrif ar-lein.

Mae rhai camau y gallwch eu cymryd i sicrhau eich bod yn barod i wneud eich cais:

Cam 1: Creu eich cyfrif ar-lein (o 00:19 yn y fideo)

  1. Dewiswch enw defnyddiwr a chyfrinair.
  2. Rhowch eich cwestiynau diogelwch. Mae angen y rhain i gadw’ch cyfrif yn ddiogel.
  3. Llenwch yr adran ‘amdanoch chi’ (enw a chyfeiriad).
  4. Rhowch a chadarnhewch eich cyfeiriad e-bost.
  5. Rhowch a chadarnhewch eich rhif ffôn symudol.
  6. Rhowch gyfeiriad eich cartref.

Cam 2: Dechrau eich cais (o 01:36 yn y fideo)

  1. Efallai y byddwch angen manylion am:
    • gostau tai a threfniadau rhent
    • unrhyw gynilion ac incwm, gan gynnwys budd-daliadau eraill
    • pobl sy’n byw gyda chi
  2. Oes gennych chi bartner?
  3. Sut i wneud cais ar y cyd (os yw hyn yn berthnasol i chi)

Cam 3: Gwneud cais ar y cyd gyda’ch partner (o 02:21 yn y fideo)

Os ydych yn rhan o gwpl, bydd angen i chi a’ch partner wneud cais ar y cyd.

  1. Bydd angen i’r ddau ohonoch greu cyfrif. Bydd pwy bynnag sy’n gwneud hyn gyntaf yn cael cod cysylltu.
  2. Yna dylai’r partner arall yn y cwpl ddefnyddio’r cod hwn pan fyddant yn cofrestru ar gyfer eu cyfrif.
  3. Rhowch enw cyntaf eich partner.
  4. Rhowch god post eich partner.
  5. Cwblhewch eich cais ar y cyd gyda’ch gilydd.

Cam 4: Rhestr o bethau i’w gwneud eich cyfrif (o 03:21 yn y fideo)

Yn ystod y cais, gofynnir y cwestiynau isod i chi, felly gwnewch yn siŵr bod gennych y wybodaeth wrth law i’w hateb. Efallai y bydd angen i chi lwytho copïau o rai o’r dogfennau hyn i wirio eich hunaniaeth a’ch amgylchiadau (fel mantolenni banc neu gytundeb tenantiaeth).

  1. Beth yw eich cenedligrwydd?
  2. Ydych chi wedi bod allan o’r DU yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf?
  3. Oes gennych chi gostau tai, gan gynnwys treth gyngor? Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i ni pa fath o lety rydych yn byw ynddo.
  4. Faint o blant ydych chi am wneud cais amdanynt?
  5. Beth yw eich statws gwaith a’ch enillion presennol?
  6. Pa fathau o arian, cynilion a buddsoddiadau sydd gennych?
  7. Incwm, taliadau neu fudd-daliadau eraill.
  8. Ydych chi mewn addysg neu hyfforddiant?
  9. Oes gennych chi unrhyw salwch, anabledd neu gyflyrau iechyd parhaus sy’n effeithio ar eich gallu i weithio?
  10. Ydych chi’n cael budd-dal gofalwr?
  11. Manylion cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd,

Cam 5: Cadarnhau eich manylion (o 05:11 yn y fideo

Yn yr adran hon, gallwch wirio eich bod wedi rhoi’r wybodaeth gywir i’r cwestiynau uchod.

Gofynnir i chi gadarnhau bod y wybodaeth a ddarparwyd gennych yn gyflawn ac yn gywir ar dudalen y datganiad terfynol.

Os bydd eich amgylchiadau’n newid, mae’n bwysig eich bod yn dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau cyn gynted â phosibl.

Yna gofynnir i chi a wnaeth unrhyw un eich helpu i wneud eich cais.

Cam 6: Sut i edrych ar eich dyddlyfr (o 06:48 yn y fideo)

Byddwch nawr yn gallu defnyddio’ch dyddlyfr i weld hanes eich cyfrif Credyd Cynhwysol a gadael negeseuon ar gyfer Credyd Cynhwysol. Byddwch yn gallu rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau, gweld eich rhestr o bethau i’w gwneud a gwirio pryd y bydd eich taliad nesaf.

Cam 7: Cadarnhau eich hunaniaeth (o 07:10 yn y fideo)

Gofynnir i chi ddilysu eich hunaniaeth ar-lein gan ddefnyddio dau fath o ID (slipiau cyflog, P60, pasbort y DU, trwydded yrru’r DU, Hunanasesiad, credydau treth neu eirda credyd).

Peidiwch â phoeni os nad oes gennych y mathau hyn o hunaniaeth, bydd botwm i glicio lle gallwch drefnu apwyntiad i ddilysu eich hunaniaeth.

Bydd angen i chi ddilysu eich hunaniaeth hefyd er mwyn cael diogelwch trosiannol, os oes gennych hawl iddo.

Cam 8: Derbyn eich ymrwymiad hawlydd (o 08:10 yn y fideo)

Gofynnir i chi gytuno i rai ymrwymiadau, yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol. Mae hyn yn cynnwys mewngofnodi i’ch cyfrif i gwblhau’r holl weithgareddau a rhoi gwybod am newidiadau yn eich amgylchiadau.