Pryd mae angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol

Byddwch yn derbyn llythyr drwy’r post gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Gelwir hyn yn ‘Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol’ ac mae’n dweud wrthych pryd mae angen i chi symud i Gredyd Cynhwysol.

Mae’n bwysig nad ydych yn gwneud unrhyw beth nes i chi dderbyn eich llythyr.

Ni chewch eich symud yn awtomatig a rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol erbyn y dyddiad cau a roddir yn eich llythyr. Cadwch lygad am eich llythyr gan y gallai ei anwybyddu hyd yn oed stopio eich taliadau. Os oes gennych gwestiwn am wneud cais am Gredyd Cynhwysol neu os oes gennych broblem mynd ar-lein, ffoniwch y rhif yn eich llythyr Hysbysiad Trosglwyddo.

Ar hyn o bryd mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn anfon llythyrau i gwsmeriaid budd-daliadau, felly os ydych yn hawlio’r budd-daliadau canlynol, cadwch lygad am eich llythyr Hysbysiad Trosglwyddo yn y post:

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)

Bydd llawer o bobl yn gymwys am o leiaf yr un swm ar Gredyd Cynhwysol â’u budd-dal blaenorol.

Os yw eich hawl i Gredyd Cynhwysol yn llai na’ch budd-daliadau blaenorol, yna efallai y byddwch yn gymwys i gael amddiffyniad ariannol pan fyddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol. Gelwir y swm ychwanegol hwn yn ‘ddiogelwch trosiannol’. Er mwyn helpu i ddangos sut mae diogelwch trosiannol yn gweithio, dyma enghraifft.

Enghraifft


Mae gan Sarah hawl i £700 ar ei budd-daliadau presennol.

Ei hawl i Gredyd Cynhwysol yw £600.

Mae hyn yn golygu y bydd diogelwch trosiannol Sarah yn £100.

Mae cyfanswm ei hawl i Gredyd Cynhwysol nawr yn £700.

I fod yn gymwys i gael ‘ddiogelwch trosiannol’:

  • dylech ond gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar ôl i chi dderbyn eich llythyr Hysbysiad Trosglwyddo
  • mae’n rhaid i chi wneud cais cyn y dyddiad cau yn eich llythyr Hysbysiad Trosglwyddo
  • ni ddylai fod unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau

Darganfyddwch fwy am sut mae eich taliadau yn cael eu diogelu.

Bydd y fideo isod yn esbonio sut mae Diogelwch Trosiannol yn gweithio.

Cymhwysedd

Os ydych yn gwneud cais o fewn y dyddiad cau ar eich llythyr, yna nid yw rhai rheolau cymhwysedd Credyd Cynhwysol arferol yn berthnasol i chi.

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych chi neu’ch partner mewn addysg uwch llawn amser (fel prifysgol) drwy gydol eich cwrs. Darganfyddwch fwy am Gredyd Cynhwysol a myfyrwyr.

Darganfyddwch fwy am gymhwysedd ar gyfer Credyd Cynhwysol.


Ni fydd rhai pobl yn symud i Gredyd Cynhwysol

Ni fyddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol os ydych ond yn derbyn Budd-dal Tai ac neu rydych chi a’ch partner:

  • o oedran pensiwn y wladwriaeth (66 oed neu drosodd)
  • yn byw mewn llety dros dro a ddarperir gan gyngor oherwydd eich bod yn ddigartref
  • yn byw mewn llety â chymorth gan gynnwys llochesi, hosteli, tai gofal ychwanegol a rhai tai cysgodol

Yn hytrach, byddwch yn parhau i dderbyn cymorth gyda chostau tai drwy eich Budd-dal Tai presennol.

Os ydych ond cael budd-daliadau dull newydd, naill ai Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd  (ESA C) neu Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd (JSA C), yna ni ofynnir i chi symud i Gredyd Cynhwysol.

Os nad ydych chi’n siwr pa fudd-daliadau rydych chi’n eu cael, gallwch siarad ag ymgynghorydd annibynnol.


Taliad Tanwydd Gaeaf

Mae’r Taliad Tanwydd Gaeaf yn gyfandaliad di-dreth i bobl hŷn cymwys er mwyn eu cefnogi gyda chostau i wresogi eu cartref yn y gaeaf.

Mae’r Taliad Tanwydd Gaeaf bellach yn destun prawf modd. Efallai y byddwch yn gymwys os:

  • cawsoch eich geni cyn 23 Medi 1958
  • rydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon
  • roeddech yn cael Credyd Cynhwysol yn ystod yr wythnos gymhwyso rhwng 16 a 22 Medi 2024

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael y Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig os ydynt yn gymwys. Darganfyddwch fwy am Daliad Tanwydd Gaeaf ar gov.uk.