Eglurhad o Gredyd Cynhwysol

Ar gyfer pwy mae Credyd Cynhwysol? Mae ar gyfer pobl sydd:

  • ar incwm isel
  • angen help gyda chostau byw
  • yn gweithio (gan gynnwys yr hunangyflogedig neu ran-amser)
  • allan o waith
  • gyda chyflwr iechyd sy’n effeithio ar eu gallu i weithio

Mae’n disodli 6 budd-dal gan gynnwys credydau treth, ac yn eich helpu i gael y cymorth ariannol y mae gennych hawl iddo mewn un lle.

Gyda Chredyd Cynhwysol, efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael mwy o gymorth ariannol i dalu am bethau eraill fel gofal plant a chostau tai. Efallai y byddwch yn cael anogwr gwaith, a all roi arweiniad wedi’i deilwra i chi ar wella’ch sgiliau a datblygu yn y gwaith i’ch helpu i gefnogi’ch teulu.

Mae’r fideo hwn gyda Chelsea, yn esbonio popeth sydd angen i chi ei wybod am symud i Gredyd Cynhwysol.

Efallai y bydd symud i Gredyd Cynhwysol yn teimlo fel newid mawr ond mae llawer o bobl eisoes wedi symud. Darllenwch stori Paul am symud i Gredyd Cynhwysol.

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol ac yn cael eich hun allan o waith yn annisgwyl, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn addasu’n awtomatig i’ch cefnogi. Os ydych am wneud mwy o waith, efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol, a fydd yn addasu i’ch incwm ac a allai barhau i ychwanegu at eich cyflog pan fyddwch mewn gwaith.